#

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd 

 

 
 

 

 


Diweddariad ar Flaenoriaethau'r Pwyllgor a Choflenni Deddfwriaethol Allweddol yr UE: Rhagfyr 2015

Mae'r papur hwn yn rhoi diweddariad ar goflenni allweddol yr UE a meysydd polisi sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Mae hefyd yn darparu crynodeb o'r gwaith a gwblhawyd gan y Pwyllgor ar faterion Ewropeaidd ers y tro diwethaf iddo gyhoeddi diweddariad ym mis Gorffennaf 2015. Yn ogystal, mae'r papur yn amlinellu'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn bwriadu ei wneud ar faterion yr UE rhwng nawr a diwedd y Cynulliad.

Dyma'r trydydd mewn cyfres o bapurau diweddaru y mae'r Pwyllgor wedi'u cyhoeddi ar ei waith materion Ewropeaidd yn 2015.                                                                             

 

1.       Coflenni presennol a gwaith a gwblhawyd

Mae'r Pwyllgor wedi bod yn olrhain ac yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar nifer o gynigion deddfwriaethol a pholisi yr UE dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys gwaith ar bysgodfeydd rhwydi drifft, cynhyrchu organig, tyfu organebau a addaswyd yn enetig (GMO), bwyd a bwyd anifeiliaid GMO, symleiddio a gweithrediad y Polisi Amaethyddol Cyffredin, y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsiwerydd a chynigion Pecynnu Gwastraff (Bagiau Plastig).

Yn dilyn ei ymchwiliad byr am y rheoliadau organig yn 2014, mae'r Pwyllgor wedi parhau i ymgysylltu â'r sefydliadau Ewropeaidd ac yn arbennig Senedd Ewrop i leisio'r pryderon a godwyd gan randdeiliaid Cymru ynghylch testun y drafft gwreiddiol. Mae'r Pwyllgor wedi croesawu'r newidiadau cadarnhaol arfaethedig i'r goflen gan ei gyfeillion yn Senedd Ewrop ac mae'n edrych ymlaen at ystyried canlyniadau'r trafodaethau tairochrog. Mae'r Pwyllgor wedi ymgymryd â'i waith ar y cynigion i wahardd pysgota rhwydi drifft yn yr UE mewn ffordd debyg. Nododd y Pwyllgor ei bryderon ynghylch cymesuredd y cynigion yn uniongyrchol i Gyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Materion Morol ac Aelodau o Senedd Ewrop a bydd yn parhau i gadw llygad ar ddatblygiadau'r goflen hon.

Mae rhai o'r cynigion a ystyriwyd gan y Pwyllgor bellach wedi cwblhau eu taith drwy'r broses ddeddfwriaethol, sef rheoleiddio ar dyfu GMO ac ar fagiau plastig. Bydd y Pwyllgor yn cadw llygad ar waith Gweinidogion Cymru o weithredu'r rheoliadau hyn tan ddiwedd y Cynulliad hwn.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn bwriadu cadw golwg ar y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar reoleiddio ar fwyd a bwyd anifeiliaid GMO, symleiddio'r PAC a'r trafodaethau TTIP.

2.       Cynigion newydd

Mae Rhaglen Waith y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer 2016 yn cynnwys nifer o gynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd ac adolygiadau o ddeddfwriaeth bresennol sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

§    Y Pecyn Economi Gylchol;

§    Y Pecyn Undeb Ynni; ac

§    Archwiliad o Addasrwydd y Cyfarwyddebau Natur ac Adolygiad canol-tymor o'r Strategaeth Bioamrywiaeth.

 

Yn ogystal â chadw llygad ar y mentrau hyn ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn, bydd y Pwyllgor yn eu hystyried fel rhan o'i waith etifeddiaeth, ac yn cwblhau ei waith ar 'Dyfodol Ynni Craffach i Gymru?'.

 

Ceir tabl sy'n amlinellu blaenoriaethau'r Pwyllgor a'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd ar y dudalen nesaf.

 

 

 

 

 

 

 


Tabl 1: Coflenni allweddol a chynigion o ddiddordeb

Coflen

 

Cam cyfredol

 

Dyddiadau a gweithredoedd allweddol

Rheoliad ar wahardd rhwydi drifft

 

Senedd Ewrop: Ystyriaeth gan y Pwyllgor Pysgodfeydd. Paratowyd yr adroddiad drafft gan rapporteur Renata Brianco S&D ac fe'i cyhoeddwyd ar 30.1.2015. Ar 7.5.15, roedd disgwyl i'r Pwyllgor Pysgodfeydd bleidleisio ar y cynigion, ond mae galwadau am i'r cynnig gael ei wrthod yn achosi oedi ar hyn o bryd.

Cyngor: Nid oes unrhyw gofnod o safbwynt ffurfiol y Cyngor ar hyn o bryd.

 

 

Senedd Ewrop: Y dyddiad dangosol a ddisgwylir ar gyfer cyfarfod llawn fydd 8.3.16, darlleniad cyntaf/sengl

Camau arfaethedig

Ysgrifennodd y Pwyllgor at y Comisiwn Ewropeaidd, Pwyllgor Pysgodfeydd Senedd Ewrop ac ASEau sy'n cynrychioli Cymru yn gynharach eleni yn amlinellu eu canfyddiadau o sesiynau rhanddeiliaid. Cafodd ymatebion i'w lythyr gan Gomisiynydd Vella a gohebiaeth gan yr ASEau o Gymru. Bydd y Pwyllgor yn parhau i fonitro hynt y goflen hon.

Cynhyrchu a labelu organig

 

Senedd Ewrop: Adroddiad a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor Amaethyddiaeth ar 13.10.15

Cyngor: Cytunodd y Cyngor ar ei Ymagwedd Gyffredinol ar 16.6.15.

 

Senedd Ewrop a'r Cyngor: Dechreuodd trafodaethau dairochrog rhwng y sefydliadau ar 12.11.15. Trafododd Senedd Ewrop gynnydd ar y trafodaethau ar 1.12.15

 

Camau arfaethedig

Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu ddwywaith at ASEau ym Mhwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop, at Aelodau Seneddol Ewropeaidd Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch pryderon rhanddeiliaid. Unwaith yn ystod trafodaethau cychwynnol yn Senedd Ewrop ac eilwaith wrth ymateb i gyhoeddi Adroddiad drafft Pwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop. Mae'r Pwyllgor hefyd wedi craffu ar waith Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd Llywodraeth Cymru am ei barn ar oblygiadau'r cynnig i Gymru.

Cafodd y Pwyllgor ymatebion i'w lythyr gan ASEau Cymru a'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae nifer o'r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor hwn wedi cael sylw yn Adroddiad Terfynol Pwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop ar y cynigion. Bydd y Pwyllgor yn parhau i fonitro'r goflen a chraffu ar Lywodraeth Cymru o ran ei weithredu yng Nghymru.

Bwyd a Phorthiant GMO

 

Senedd Ewrop: Pleidleisio i wrthod y cynigion ar 28 Hydref 2015.

Cyngor: Mae'r Cyngor eto i gytuno ar ei safbwynt, ond disgwylir i drafodaethau gael eu cynnal yn ystod y misoedd nesaf.

 

Camau arfaethedig

Ysgrifennodd y Pwyllgor at Ddirprwy Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru ar 9.6.15 i ofyn am ragor o wybodaeth am safbwynt Llywodraeth Cymru. Bydd y Pwyllgor yn cadw golwg ar y goflen hon ar gyfer unrhyw ddatblygiadau pellach.

Pecyn Economi Gylchol

 

Disgwyl cyhoeddi'r cynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd.

 

Camau arfaethedig

Bydd y Pwyllgor yn cadw golwg ar ddatblygiadau a bydd yn rhoi ystyriaeth bellach i unrhyw gynigion ar ôl eu cyhoeddi. Mae'n debygol o ofyn am farn rhanddeiliaid ar y mater drwy ei waith etifeddiaeth.

Pecyn Energy Union:

Dylunio Marchnad Drydan

Gwiriad Addasrwydd Cyfarwyddeb Ynni Adnewyddadwy

Gwiriad Addasrwydd Cyfarwyddeb Effeithlonrwydd Ynni

 

Disgwyl cyhoeddi'r cynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd.

 

Camau arfaethedig

Bydd y Pwyllgor yn cadw golwg ar ddatblygiadau a gallai roi ystyriaeth bellach i unrhyw gynigion fel rhan o'i ymchwiliad i Ddyfodol Ynni Craffach i Gymru.

Gwiriad Addasrwydd Cyfarwyddeb Natur ac Adolygiad canol-tymor o'r Strategaeth Bioamrywiaeth

 

Senedd Ewrop: Pwyllgor yr Amgylchedd yn mabwysiadu penderfyniad ei fenter ei hun ar adolygiad canol-tymor o Fioamrywiaeth.

Cyngor: Dim trafodaethau ffurfiol yn y Cyngor ar Wiriad Addasrwydd y Gyfarwyddeb Natur ond cyd-lythyr wedi cael ei lofnodi gan rai aelod-wladwriaethau a'i anfon at y Comisiwn Ewropeaidd.

Mae'r Cyngor yn datblygu ei gasgliadau ar ganlyniadau'r adolygiad canol tymor o'r Strategaeth Bioamrywiaeth.

Disgwylir cynigion manwl y Comisiwn Ewropeaidd yn gynnar yn 2016.

 

Senedd Ewrop: Disgwylir i Bwyllgor yr Amgylchedd fabwysiadu ei benderfyniad ei fenter ei hun ar yr adolygiad canol tymor ar 21-22 Rhagfyr.

Cyngor: Disgwylir i'r Cyngor fabwysiadu ei gasgliadau ar yr adolygiad canol tymor yng nghanol mis Rhagfyr 2015.

Camau arfaethedig

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y cynigion ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ewropeaidd. Mae hefyd yn debygol o ystyried barn rhanddeiliaid ar y mater drwy ei waith etifeddiaeth.

Symleiddio PAC: Parhau i drafod symleiddio PAC ac Adolygiad o'r Rheolau EFA

 

Mae'r ddau sefydliad wedi gwneud eu blaenoriaethau a phwyntiau allweddol ynghylch mesurau symleiddio yn hysbys i'r Comisiwn Ewropeaidd.

 

Camau arfaethedig

Bydd y Pwyllgor yn cadw golwg ar ddatblygiadau wrth i ragor o fanylion am symleiddio yn cael eu cyhoeddi gan y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y mater drwy ei sesiynau craffu gyda Gweinidogion Cymru. Mae hefyd yn debygol o ystyried barn rhanddeiliaid ar y mater drwy ei waith etifeddiaeth.

 

Y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Drawsatlantig (TTIP)

 

Cynhaliwyd rownd 11 o drafodaethau masnach rhwng y Comisiwn Ewropeaidd a Llywodraeth yr Unol Daleithiau ar 23-24 Hydref 2015.

 

Cyfranogiad Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ôl i'r trafodaethau ddod i ben os cytunir ar delerau.

Camau arfaethedig

Bydd y Pwyllgor yn cadw golwg ar ddatblygiadau. Mae'n debygol o ofyn am farn rhanddeiliaid ar y mater drwy ei waith etifeddiaeth.

DS Mae nifer o'r cynigion a nodwyd fel blaenoriaethau mewn fersiynau blaenorol o'r tabl hwn gan y Pwyllgor wedi cwblhau'r weithdrefn ddeddfwriaethol. Bydd eu rhoi ar waith gan Weinidogion Cymru yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor fel rhan o'i fusnes arferol. Mae'r rhain yn cynnwys rheoliadau Tyfu GMO a Rheoliadau ar Becynnu Gwastraff (Bagiau Plastig).